Cyflwyno ffeiliau
Rydym yn croesawu ffeiliau PDF cywir! Ffoniwch ni os ydych yn ansicr o’r canllawiau. Neu gallwch ‘becynnu’ neu ‘gasglu’r’ gwaith allan o’ch rhaglen: bydd hyn yn rhoi’r ffeiliau gwreiddiol (lluniau a ffontiau) yn ein dwylo.
Ein prif raglenni yw InDesign and Quark (Mac a PC) ond gallwn dderbyn gwaith o raglenni eraill – gofynnwch am gyngor.
Pwyntiau pwysig ar gyfer anfon ffeiliau:
- Pob llun i fod yn 300 dpi yn ei faint terfynol ac os mewn lliw, mewn pedwar lliw (CMYK), nid tri (RGB);
- Gadewch 5mm o waedu o gwmpas y dudalen a rhowch y marciau crop 6mm oddi ar ymyl y dudalen.
Gallwch anfon ffeiliau hyd at 10Mb fel atodiad e-bost. Os yn fwy, defnyddiwch wefan We Transfer (https://wetransfer.com/.)
Am gyngor technegol ar gyflwyno gwaith i brint, cysylltwch â’n Rheolwr Cynhyrchu, Paul Williams, ar neu ffoniwch ef ar 01970 831 901.