Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Wales: 100 Records | Huw Stephens yn siarad gyda Georgia Ruth

Ymunwch â’r darlledwyr Huw Stephens a Georgia Ruth ar gyfer digwyddiad arbennig ar lyfr newydd Huw, Wales: 100 Records, sy’n dadansoddi gyrfaoedd artistiaid recordio pennaf Cymru – o Tom Jones i Manic Street Preachers, o Max Boyce i Adwaith a mwy.

Mae gan Huw Stephens raglen ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, mae’n gyflwynydd gwadd ar Saturday Live ar BBC Radio 4 ac yn cyflwyno rhaglenni wythnosol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar BBC Radio Cymru a Wales. Dechreuodd ei yrfa ar BBC Radio 1, ac ers hynny mae wedi cydsefydlu’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd, ac mae’n sylwebu’n rheolaidd ar raglenni’r BBC o Ŵyl Glastonbury.

Cerddor a darlledwr o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Enillodd ei halbwm Week of Pines Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2013, a bydd Mehefin yn ei gweld hi’n rhyddhau ei halbwm newydd, Cool Head. Mae hi hefyd yn cynnal sioe wythnosol ar BBC Radio Cymru.

Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.